Brexit

Neb a ŵyr eto pa effaith yn union a gaiff Brexit ar bobl sy’n byw yng Nghasnewydd, busnesau sy’n gweithredu yn ein dinas neu ar y gwasanaethau cyhoeddus rydym yn dibynnu arnyn nhw.

Fodd bynnag, mae’r cyngor wedi cymryd camau ymarferol ac ystyried gamau i liniaru’r effaith er mwyn sicrhau parhad darpariaeth gwasanaethau yng Nghasnewydd.  

Rydym yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau cymdogol a sefydliadau eraill i sicrhau ein bod yn gwybod am y datblygiadau mwyaf diweddar ac yn creu cynlluniau i ddiogelu gweithrediad ein gwasanaethau.  

Caiff y wefan hon ei diweddaru wrth i’n gwaith paratoi ddatblygu ac wrth i ragor o wybodaeth ar faterion sy’n benodol i Gasnewydd ddod i law.

"Mae'r DU a'r UE wedi cytuno ar estyniad pellach i'r DU adael yr UE. Bydd y DU yn awr yn ymadael â’r UE ar 31 Ionawr 2020, ond gallai ymadael yn gynharach pe bai DU a EU yn cymeradwyo cytundeb ymadael." (LLyw.Cymru)

Os na chaiff bargen drosi, mae’n bosibl y bydd goblygiadau sylweddol ar lawer o agweddau ar fywyd yng Nghasnewydd, trwy Gymru a’r DU.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu ffynhonnell wybodaeth a chyngor drylwyr ar gyfer unigolion, busnesau a sefydliadau, sy’n trafod pob maes o fusnes a’r economi, gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, addysg, amgylchedd ac amaeth i gydlynu cymunedau a’r gwasanaethau lleol.

Busnes  

Os ydych chi’n berchennog busnes neu os ydych chi’n gyfrifol dros gynllunio ar gyfer Brexit, mae https://businesswales.gov.wales/brexit/cy yn nodi’r camau y dylech eu cymryd i baratoi eich busnes at effaith posibl canlyniad hab fargen.

Mae hefyd yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer gwasanaethau cymorth a chyngor.

Gall busnesau hefyd asesu a gwella eu trefniadau parhad busnes drwy ddefnyddio’r canllaw parhad busnes a’r ffurflen hunan-asesu.

Mae digwyddiadau Paratoi Busnesau ar gyfer Brexit yn cael eu cynnal ledled y DU lle gallwch gwrdd ag ymgynghorwyr y llywodraeth a dysgu beth sydd angen i’ch busnes ei wneud i baratoi – dysgwch fwy a chofrestrwch.

Cymunedau 

Fel awdurdod, a chyda’n partneriaid bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Casnewydd yn Un (link), mae’n flaenoriaeth gennym gefnogi dinas gynhwysol sy’n croesawu pobl o bob cefndir. Os ydych chi’n bryderus dros dyndra mewn cymunedau oherwydd Brexit, er enghraifft troseddau atgasedd, e-bostiwch equality@newport.gov.uk

Ddinesydd yr UE

Os yw dinesydd yr UE am aros yn y DU, bydd angen iddo ef a’i deulu agos wneud cais i’r cynllun preswylio’n sefydlog.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o gymorth i helpu dinasyddion yr UE i baratoi ar gyfer Brexit a pharhau i fyw a gweithio yng Nghymru.

Mae tua 80,000 o ddinasyddion yr UE yn byw, gweithio ac astudio yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae llawer ohonynt heb wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog Llywodraeth y DU i aros yn y DU ar ôl Brexit.   

Gwybodaeth bwysig i ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru

Os ydych chi’n ddinesydd yr UE, os oes gennych chi staff o’r UE neu os ydych chi’n recriwtio o’r UE, mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi cyngor ar Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE

Teithio 

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi cyngor ar gyfer dinasyddion y DU sy’n cynllunio teithio i’r UE. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar basbortau, cyngor ar deithio, teithio ag anifeiliaid a ffioedd crwydrol ffônau.

Caiff y wefan hon ei diweddaru wrth i’n gwaith paratoi ddatblygu ac wrth i ragor o wybodaeth ar faterion sy’n benodol i Gasnewydd ddod i law.