Y Gwir Anrhydeddus, Maer Casnewydd
Y Cynghorydd Tom Suller yw 388fed Maer Casnewydd.
Ganwyd y Cynghorydd Tom Suller yn Alexander Thomas Suller ym mis Chwefror 1945. Cafodd ei fagu yng Nghaerdydd ac aeth i Ysgol Parc y Rhath.
Gwnaeth Tom amryw o swyddi pan adawodd yr ysgol. Dechreuodd ei fywyd gwaith yn ddyn tân gyda British Rail rhwng 1962 a 1969. Yna aeth i weithio i GKN (Guest, Keen & Nettlefolds) ac wedyn ASW yng Ngweithfeydd Dur Tremorfa ac ymddeolodd oddi yno drwy afiechyd yn 2002.
Priododd am y tro cyntaf yn 1967 ac mae ganddo ddau o blant, Marc a Sian a dau o wyresau, Jessica ac Emily.
Ym 1991 cyfarfu Tom â Patricia tra'n gweithio yng ngweithfeydd dur Tremorfa. Priodwyd nhw yn Fflorida yn ddiweddarach y flwyddyn honno.
Etholwyd Tom i'r Cyngor yn 2008 ac mae'n gwasanaethu fel cynghorydd ward ar gyfer Maerun.
Mae Tom yn angerddol dros bêl-droed ac mae'n gefnogwr balch i glwb pêl-droed Dinas Caerdydd.
Elusen y Maer 2020/21
Mae'r Maer wedi dewis cefnogi Alzhiemer’s Society Cymru am ei flwyddyn yn y swydd.
Mae'r elusen yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth i sicrhau nad oes rhaid i bobl wynebu demensia ar eu pen eu hunain. Maent hefyd yn ymgyrchu dros newid, yn ariannu ymchwil i ddod o hyd i wellhad ac yn cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia heddiw.
.
Dirprwy Faer 2020/21
Dirprwy Faer Casnewydd yw'r Cynghorydd Val Dudley.
Mae’r Dirprwy Faer yn mynychu digwyddiadau ar ran y Maer. Mae’n hanfodol, felly, y dangosir yr un parch a blaenoriaeth i’r Dirprwy Faer ag a wneir i Faer Casnewydd pan fo’n mynychu digwyddiadau.
Meiri’r gorffennol
Cofnodir i faer cyntaf Casnewydd, Mr Ralph Dery, ddod i’w swydd ym 1314.
Ni chofnodwyd y swydd wedyn tan 1401 pan oedd Roger Thomas yn y swydd. Dros y blynyddoedd bu sawl maer yn y swydd am fwy nag un tymor.
Un o feiri mwyaf adnabyddus Casnewydd oedd John Frost ym 1836, a ddedfrydwyd i farw lai na phedair blynedd yn ddiweddarach am deyrnfradwriaeth yn dilyn ei ran yng ngwrthryfel y Siartwyr.
Newidiwyd y ddedfryd i alltudiaeth oes ac ym 1856 rhoddwyd pardwn llawn iddo a dychwelodd i Gasnewydd.
Swydd y Maer
Prif ddyletswydd y maer yw gweithredu fel Cadeirydd yng nghyfarfodydd llawn y Cyngor, gan sicrhau bod y trafodion yn mynd rhagddynt yn iawn ac y rhoddir gwrandawiad i bob barn.
Y maer hefyd yw dinesydd cyntaf Casnewydd ac mae’n cynrychioli’r cyngor mewn digwyddiadau dinesig a seremonïol yn y ddinas a thu allan iddi.
Yn ystod ei dymor yn y swydd mae’r maer yn anwleidyddol, ac ni all fynychu na chymryd rhan mewn unrhyw faterion dadleuol.
Etholir y maer yng nghyfarfod blynyddol y cyngor i gynrychioli holl bobl Casnewydd, ac mae’n cyflawni rôl seremonïol fel pennaeth mewn enw ar gyfer y ddinas.
Y ffurf gywir i’w gyfarch yw ‘Y Gwir Anrhydeddus, Maer Casnewydd’ a ‘Maeres Casnewydd’.
Wedi’r cyflwyniadau ffurfiol gellir eu cyfarch fel ‘Mr. Maer a ‘Madam Maeres’.
Mae Erthygl 5 (pdf) Cyfansoddiad y Cyngor yn cynnig rhagor o wybodaeth am swydd a swyddogaeth y Maer.
Darllenwch am Gadwyni Swydd y Maer
Cyswllt
Parlwr y Maer, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd
NP19 4UR
Ffôn (01633) 656656
E-bost mayors.office@newport.gov.uk
TRA122722 28/07/2020