Y Dreth Gyngor a Budd-daliadau
Cymorth COVID-19
Rydym yn deall y gallai rhai cwsmeriaid fod yn wynebu anawsterau ariannol o ganlyniad i’r Coronafeirws, rydym yma i helpu.
Os hoffech geisio hawlio gostyngiad y dreth gyngor neu ohirio taliadau, cwblhewch y ffurflen isod.
Gwneud cais am gymorth gyda'r dreth gyngor
Oherwydd y sefyllfa bresennol, gohebiaeth drwy'r ffurflen hon fyddai'r dull cyswllt a ffefrir gan y gallai fod cyfnod pan na allwn ateb galwadau ffôn, neu dderbyn gohebiaeth ysgrifenedig. Gorau po gyntaf y gallwch wneud cais i ni allu gweithio gyda'n gilydd i'ch helpu drwy'r cyfnod anodd hwn.
Gwneud trefniant i dalu eich treth gyngor
Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi
Mae gan filoedd o bobl Cymru hawl i gael mwy o fudd-daliadau.
Mae COVID-19 wedi newid ein bywydau mewn sawl ffordd, sy’n golygu bod unrhyw gymorth bach ychwanegol yn bwysicach nag erioed. Mae llawer o bobl heb ddeall y gallent fod â hawl i gael budd-daliadau a allai gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt.
Darganfod mwy.