Dysgu yn y Gymuned
Bydd manylion cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar gyfer Medi 2020 ar gael yn fuan.
Bydd y cyrsiau'n cynnwys Sgiliau Hanfodol Saesneg a Mathemateg, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, TGAU Saesneg a Mathemateg, Cynorthwy-ydd Dosbarth, Iaith Arwyddion, TGCh a Sgiliau Byw'n Annibynnol.
I ofyn am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb, e-bostiwch community.learning@newport.gov.uk
Consesiynau
Efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad ar brisiau cyrsiau.
Sylwch fod amodau’n berthnasol a bydd gofyn i chi ddangos tystiolaeth eich bod yn derbyn budd-daliadau y mae’n rhaid iddi fod yn ddilys ar y diwrnod y byddwch yn cofrestru ar y cwrs.
Siaradwch ag aelod o staff neu anfonwch e-bost i community.learning@newport.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Polisi Ad-dalu
Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd yr hawl i ganslo neu gyfuno cyrsiau. Os yw hyn yn angenrheidiol, mae’n bosib y gellir cynnig ad-daliad llawn neu rannol.
Ni roddir ad-daliadau am unrhyw reswm arall.
TRA89763 20 August 2018